Mae Pritchard a Griffiths Cyf wedi ei sefydlu ers 1936. Ymfalchiwn ein bod yn cynnig gwasanaeth gofalgar, tosturiol a pharchus i’n holl gwsmeriaid ar adeg anodd.
Gallwn gysylltu â gweinidogion o bob ffydd i drefnu angladdau o unrhyw grefydd. Gallwn hefyd drefnu organyddion, blodau, cludwyr, cludiant, taflenni gwasanaeth, lluniaeth ac unrhyw agweddau eraill ar drefnu angladd, gan ddarparu gwasanaeth trefnydd angladdau llawn a gofalgar wrth gwrs.
Gallwn hefyd gynorthwyo teuluoedd gyda threfnu angladdau, cynnig helpu gyda phob agwedd o’r angladd, neu os byddai’n well gennych, byddwn ond yn cynorthwyo gyda rhai rhannau penodol, mae ein gwasanaeth yn cael ei ddarparu i’ch dymuniadau.
Yma yn Pritchard a Griffiths Cyf rydym yn cynnig gofal personol dwyieithog 24 awr gan staff cwrtais ac ymroddedig.