Mewn ysbyty
Bydd y staff nyrsio yn cysylltu â'r perthynas agosaf cyn gynted â phosibl a bydd meddyg yn rhoi'r dystysgrif marwolaeth.
Mewn cartref nyrsio neu breswyl
Mae'r broses yma fel arfer yn debyg iawn i ysbyty. Mae'n well siarad â'r cartref y mae eich perthynas yn byw ynddo i wneud yn siŵr bod unrhyw ddymuniadau arbennig yn cael eu cydnabod.
Adref
Os disgwylir y farwolaeth, cysylltwch â'ch meddygfa cyn gynted ag sy'n rhesymol bosibl a bydd yn trefnu ymweliad i roi tystysgrif marwolaeth.
Os yw’r farwolaeth yn sydyn neu’n annisgwyl, ffonio ambiwlans a’r heddlu yw’r peth gorau i’w wneud. Efallai y bydd angen post-mortem cyn y gellir trefnu angladd.
Beth bynnag yw'r sefyllfa, rydym yma 24/7 i drefnu cludiant a gofal i'r ymadawedig.